Amser cyffrous i Neuadd Y Clarens!
Posted: 18th November 2022Mae Ymddiriedolwyr Neuadd Y Clarens yn ymfalchio i allu cyhoeddi gyda diolch i Lywodraeth Cymru, Loteri Cenedlaethol Cymunedol ac i’r holl gefnogwyr lleol, fod cyllid yn awr yn ei le ar gyfer contract gyda adeiladwr i ddechrau Cam1 o adnewyddu’r Neuadd.
Fe fydd hwn yn cynnwys: uwchraddio a cegin newydd; cyfleuterau toiledau newydd; mynediad i doiledau anabl ac yn cynnwys ardal newid i fabis; bar bach a mynedfa newydd i fewn i’r Neuadd o’r A40 a’r Maes Parcio.
Rydym yn rhagweld fydd y rhaglen adeiladu ar gyfer y mynedfa newydd/a’r ystafell amlswyddogaeth i ddechrau yn hwyr ym mîs Tachwedd, er nad ydym yn disgwyl unrhyw darfiad ar ddefnyddwyr i fewn i 2023 pan fydd y gwaith i’r adeilad yn cymryd lle. Wrth gwrs, fe fyddwn mewn cysylltiad a’r tenantiaid o Dŷ Neuadd Y Clarens a phob grŵp sydd yn defnyddio’r Neuadd i esbonio sut fydd y gwaith yn ymgymryd o dan dull graddol ac unrhyw effaith y caiff ar eu gweithgareddau.
I wneud yn siwr fod adnewyddu’r Neuadd yn uchafu’r cyfleusterau sydd ar gael i’r gymuned,fe fyddwn yn dal i godi arian yn ystod Cam 1.
Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru, Loteri Cenedlaethol Cymunedol ac wrth gwrs i bawb sydd wedi cefnogi’r ymgyrch hyd nawr. Edrychwn ymlaen i gyflwyno lleoliad fydd yn gallu cynnig ystod llawn gweithgareddau cynhwysol.