We’ve reached our fundraising target!

Posted: 3rd March 2022

The Trustees of the 
Clarence Hall are 
delighted to confirm that
 thanks to the generosity
 of our community, we have reached our initial
 fundraising target of
 £95,000.  This is
 tremendous news and
 means that we have now secured our grant of £100,000 from the National Lottery Community Fund, which was awarded in September 2021, raising £195,000 in total.

We are very grateful to everyone who has contributed to our campaign – without your support, this achievement would not have been possible.

As you are all aware, the works that we are proposing to complete as Phase 1 of the Hall’s refurbishment have been determined in response to our Community Consultation in 2020. Our intention is to continue fundraising over the next year to ensure that the specification for the refurbishment is as good as it can be and will deliver all the benefits we anticipate. In particular, feedback received from recent consultations with our key partners has suggested that a commercial grade kitchen would support many additional activities, including a seniors’ lunch club or Meals on Wheels service. We have therefore raised our fundraising target to £105,000 in order to deliver this, although this does not impact our Lottery grant.

We are planning for work to commence in September this year on a phased basis, to enable the Hall to be used throughout by the many organisations it supports.

These are exciting times for the Clarence Hall and we are delighted with the enthusiastic support the community has given our ambitious programme of refurbishment!

++++++++++++++++++

Rydym wedi cyrraedd ein targed codi arian!

Mae’n bleser gan Ymddiriedolwyr Clarence Hall gadarnhau, diolch i haelioni ein cymuned, ein bod wedi cyrraedd ein targed codi arian cychwynnol o £95,000.  Mae hyn yn newyddion gwych ac mae’n golygu ein bod bellach wedi sicrhau ein grant o £100,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a ddyfarnwyd ym mis Medi 2021, gan godi cyfanswm o £195,000.

Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at ein hymgyrch – heb eich cefnogaeth chi, ni fyddai’r cyflawniad hwn wedi bod yn bosibl.

Fel y gwyddoch i gyd, mae’r gwaith yr ydym yn bwriadu ei gwblhau fel Cam 1 o adnewyddu’r Neuadd wedi’i bennu mewn ymateb i’n Hymgynghoriad Cymunedol yn 2020.  Ein bwriad yw parhau i godi arian dros y flwyddyn nesaf er mwyn sicrhau bod y fanyleb ar gyfer adnewyddu cystal ag y gall fod ac y bydd yn sicrhau’r holl fanteision a ragwelir gennym.  Yn benodol, mae adborth a gafwyd o ymgynghoriadau diweddar gyda’n partneriaid allweddol wedi awgrymu y byddai cegin gradd fasnachol yn cefnogi llawer o weithgareddau ychwanegol, gan gynnwys clwb cinio i’r henoed neu wasanaeth pryd ar glud. Felly, rydym wedi codi ein targed codi arian i £105,000 er mwyn cyflawni hyn, er nad yw hyn yn effeithio ar ein grant Loteri.

Rydym yn bwriadu i’r gwaith ddechrau ym mis Medi eleni fesul cam, er mwyn galluogi’r Neuadd i gael ei defnyddio drwyddi draw gan y sefydliadau niferus y mae’n eu cefnogi.

Mae’n gyfnod cyffrous i Clarence Hall ac rydym wrth ein bodd gyda’r gefnogaeth frwdfrydig y mae’r gymuned wedi’i rhoi i’n rhaglen adnewyddu uchelgeisiol!