Datganiad i’r Papur

Posted: 23rd September 2021

Mae Neuadd Y Clarens, Crug Hywel yn dathlu ennill grant Cenedlaethol y Loteri o £100k ar gyfer adnewyddu

Ar ôl ansicrwydd dros y 18 mîs diwethaf, mae’r Ymddiriedolwyr Neuadd Y Clarens yn dathlu ar ôl cael gwybodaeth eu bod wedi ennill £100,000 o grant o’r Loteri Cenedlaethol Cymunedol ar gyfer adnewyddu’r Neuadd.

Fe drefnodd Neuadd Y Clarens archwiliad Cymunedol yn gynnar yn 2020 i ofyn i’r cyhoedd beth oeddynt eisiau, ac yna fe ymgeisiwyd am y grant i gwrdd ac anghenion a welwyd yn yr archwiliad.

Cegin newydd, toiledau newydd a thoiledau addas ar gyfer yr anabl, gyda lle ar gyfer newid babi, ardal gwerthu diod a mynedfa newydd i mewn i’r Neuadd gyda ramp o’r A40 a’r maes parcio.

Dywedodd y Cadeirydd Dean Christy:

“Mae Neuadd Y Clarens wedi bod yn galon y gymuned yng Nhgrug Hywel am dros 130 o flynyddoedd, yn rhoi lle canolig ar gyfer diddanu pobl, cyfarfodydd addysg a gwirfoddoli. Nawr, gyda diolch i Chwaraewyr Loteri Cenedlaethol maen tawelu ein meddwl i  wybod ein bod yn agosach i greu lle croesawgar, gyda mynedfa addas sy’n cynnig gweithgareddau ar gyfer unigolion a grwpiau o bob oedran ar ôl y cyfnod clo.

Bydd dal rhaid codi mwy o arian ar gyfer gwella a chadw’r adeilad Cymunedol ar gyfer y genhedlaeth yn y dyfodol. Mae’r Ymddiriedolwyr ar hyn o bryd yn paratoi rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer cefnogi’r momentwm o’r rhodd yma.”

Ychwanegodd John Rose, Cyfarwyddwr Y Loteri Cenedlaethol Cymunedol yng Nghymru:

“Mae chwaraewyr Loteri Cenedlaethol yn codi dros £30 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da drwy y D.U a blwyddyn diwethaf cafodd dros 8,000 o brosiectiau ar draws y D.U arian ar gyfer dod a chymunedau at eu gilydd.”