Neuadd Clarence yn lansio Apêl Adnewyddu
Posted: 22nd October 2021Mae Ymddiriedolwyr Neuadd Clarence yn ymateb i Arolwg Cymunedol 2020 drwy lansio apêl i adnewyddu’r safle cymunedol poblogaidd hwn.
Bydd Cam 1 yr ailddatblygiad yn cynnwys: cegin newydd wedi’i huwchraddio, cyfleusterau toiled newydd, toiled newydd gyda mynediad i’r anabl sy’n cynnwys lle i newid babanod, bar bach a mynedfa hygyrch i mewn i’r neuadd gyda mynediad ramp o’r A40 a’r maes parcio.
Rhan hanfodol o’r prosiect hwn yw gwneud yr adeilad yn fwy hygyrch i bobl sydd ag anableddau, i bobl hŷn ac i rieni sy’n defnyddio bygis a chadeiriau gwthio. Rydym yn ymwybodol bod y diffyg mynediad a’r cyfleusterau hen ffasiwn ar hyn o bryd yn effeithio ar allu nifer eang o fuddiolwyr i fynd i’r safle cymunedol hwn ac elwa ohono.
Er ein bod wedi derbyn £100,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol tuag at y gwaith adnewyddu, mae angen cymorth cymunedol arnom yn awr i godi’r arian sy’n weddill. Rydym yn gobeithio y gallwch chi ein helpu!
Gallwch gyfrannu at y prosiect drwy:
– Roi rhodd ar-lein yn justgiving.com/campaign/clarencehall
– Anfon siec a llenwi’r ffurflen Cymorth Rhodd amgaeedig
Byddem yn gwerthfawrogi unrhyw gymorth y gallwch ei ddarparu yn fawr iawn. Bydd manylion y rhoddwyr i gyd yn cael eu dathlu ar Dudalen i Gefnogwyr y wefan hon yn rhan o Gymuned Clarence Hall. Byddwn yn trin rhoddion o £100+ fel Cyfeillion, £500+ fel Noddwyr a £1000+ fel Cymwynaswyr. Os ydych eisiau aros yn ddienw, rhowch wybod i ni a byddwn, wrth gwrs, yn parchu eich dymuniad.
Mae ein Hymddiriedolwyr hefyd yn gweithio ar nifer o ddigwyddiadau codi arian cyffrous i gefnogi ein cynlluniau. Mae manylion ar gael yn yr adran Beth sy Mlaen ar y wefan hon ac yn ein cylchlythyr rheolaidd sydd hefyd yn esbonio sut mae ein cynlluniau’n dod yn eu blaen. Cofrestrwch isod!